Trefniadau cynllunio ac adrodd effeithiol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam Mae'n rhaid i sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus fod yn dryloyw ac yn atebol i'r dinasyddion y maent yn eu gwasanaethu. Er mwyn sicrhau bod gwasanaethau'n perfformio'n effeithiol ac yn rhoi gwerth am arian, mae sefydliadau yn adrodd ar eu gwaith. Am fod yn rhaid i sefydliadau adrodd ar sawl agwedd wahanol ar y gwasanaethau a ddarperir ganddynt, gallai'r broses hon fod yn feichus. Hefyd, gallai'r wybodaeth a ddarperir a'r llwyth gwaith gael eu dyblygu wrth i gynlluniau a strategaethau orgyffwrdd â'i gilydd. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cyflogi tua 6000 o aelodau o staff mewn naw adran. Mae un o'r tri Chyfarwyddwr Strategol a Pherfformiad yn gyfrifol am gynllunio corfforaethol a rheoli perfformiad a chaiff ei gefnogi gan dîm bach yn yr Adran Gwasanaethau Cwsmeriaid a Chorfforaethol. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi trefnu pum lefel gynllunio, sy'n dod ynghyd i lunio Edau Aur. Mae pob lefel yn bwydo i mewn i'r nesaf er mwyn sicrhau bod adnoddau cynllunio yn cael eu defnyddio mor effeithiol â phosibl. Mae pob aelod o staff yn cael Adolygiad o Berfformiad ac Arfarniad Datblygu Cymhwysedd, sef adolygiad a gynhelir bob chwe mis rhwng yr aelod o staff a'i reolwr. Yn ystod yr adolygiad hwn, maent yn cytuno ar nifer fach o amcanion pendant ac ymarferol ar gyfer y flwyddyn. Maent yn adrodd ar gynnydd a hefyd yn edrych ar y cymorth sydd ei angen ar yr aelod o staff i gyflawni'r amcanion hyn. Caiff yr amcanion hyn eu bwydo i mewn i Gynlluniau Gwasanaeth yr Adrannau, a all hefyd gynnwys cynlluniau ar gyfer meysydd gwasanaeth, cynlluniau tîm neu gynlluniau uned. Mae'r rhain ar gael i reolwyr eu defnyddio er mwyn sicrhau bod adnoddau ar gael i gyflawni'r holl amcanion a'u bod yn cael eu monitro. Yn eu tro, mae'r cynlluniau yn bwydo i mewn i'r Strategaethau Corfforaethol, sy'n cynnwys manylion am yr hyn a wnaiff y Cyngor. Mae'r Strategaethau Corfforaethol yn bwydo i mewn i Gynllun y Cyngor, sef cynllun gwella statudol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae'r cynllun yn cyd-fynd â chylch etholiadol y Cyngor ac mae'n sicrhau bod blaenoriaethau'r Cyngor yn canolbwyntio ar y meysydd lle mae'n gwario arian ac yn treulio amser. Caiff aelodau adroddiadau chwarterol ar berfformiad, sy'n seiliedig ar y wybodaeth a geir yng nghynlluniau gwasanaeth adrannau. Caiff y rhain eu diweddaru bob chwarter gan Benaethiaid yr Adrannau, a chynhelir cyfarfodydd i herio canlyniadau â blaenoriaeth bob chwarter hefyd. Mae themâu Cynllun y Cyngor yn cyfateb i'r rhai yn 'Ein Cynllun Ni ar gyfer Wrecsam', sef y cynllun integredig sengl. Er mai'r Bwrdd Gwasanaethau Lleol yw perchennog y cynllun, mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol i sicrhau bod y cynllun ar waith. Mae gan bartneriaid eraill o fewn y Bwrdd Gwasanaethau Lleol ddyletswyddau statudol i gydweithio â hwy. Caiff Cynllun Wrecsam ei gyflawni a'i reoli gan dri Bwrdd Cyflawni Partneriaeth sy'n gweithio yn unol â'r themâu 'Byw'n Annibynnol a bod yn iach ac yn heini'; 'Lle diogel ble mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys'; ac 'Economi gref, wydn a chyfrifol'. Mae hyn yn helpu i osgoi unrhyw ddyblygu mewn adroddiadau ac yn galluogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio mor effeithiol â phosibl yn ystod y broses. Mae wedi arwain at symleiddio'r broses adrodd. Mae'r data yn symlach ac yn gliriach ac mae'r manylion i'w gweld yn y sylwadau, yn enwedig yn yr uchafbwyntiau a'r meysydd sy'n peri pryder. Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam Ddyletswydd Statudol i gyhoeddi hunanwerthusiad o'i berfformiad yn erbyn yr amcan a nodwyd ganddo, sydd wedi cael ei ddatblygu er mwyn ei wneud yn
fwy diddorol ac yn haws ei ddefnyddio. Mae'n cynnwys graffiau gyda thueddiadau, targedau a chymariaethau. Enw: Morgan Jones Teitl/rôl: Uwch Swyddog Perfformiad, Gwelliant a Phartneriaethau Sefydliad: Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam E-bost:
[email protected] Ffôn: 01978 292263